Mr Huw Jones-Williams

English

HeadAr ddiwedd y flwyddyn academaidd 2007 i 2008, ffarwelion ni a Gareth Mathewson OBE, a ymddeolodd fel Prifathro Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd ar ol cyfnod o bedair blynedd ar ddeg o wasanaeth nodedig yn yr ysgol. Mae'n bleser ac yn fraint i mi i'w olynu gan ddychwelyd i'r ysgol hon ar ol bod yn Brifathro yn Ysgol Uwchradd Fitzalan am dair blynedd yn flaenorol ac yn Ddirprwy Brifathro yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd.

Ysgol gyd-addysgiadol ydy Ysgol Yr Eglwys Newydd ac mae bron i 2,400 o ddisgyblion ar y gofrestr. Daw ein derbyniad blynyddol oddi wrth ein parterniaeth  â wyth ysgol gynradd sef Llwynbedw, Coryton, Eglwys Newydd, Gabalfa, Y Ddraenen Wen, Llanishen Fach a Rhiwbeina ynghyd â Meadowbank. Lleolir yr holl ysgolion hyn yng Ngogledd Caerdydd. Lleolir Ysgol Uwchradd Yr Eglwys Newydd ar ddwy safle ym maestref Yr Eglwys Newydd. Lleolir Blwyddyn 7,8 a 9 yn safle’r Ysgol Isa ger Manor Way a lleolir Blwyddyn 10,11 a 12 yn safle’r Ysgol Uchaf yn y pentref. Dengys gordanysgrifiadau ym mhob ystod grwpiau blwyddyn, boblogrwydd yr ysgol.

Mae ein chweched dosbarth yn un o’r mwyaf yn y wlad gyda dros 450 o ddisgyblion yn astudio ystod eang o gyrsiau. Nyni ydy’r unig ysgol wladol yng Nghymru  i gynnig  Diploma Bagloriaeth Rhyngwladol yn ogystal â Bagloriaeth Gymreig, lefel A gymwysiedig, BTECs, A2 a A/S sydd gyda rhaglenni unigol sydd wedi eu cynllunio ar gyfer holl ystod gallu disgyblion, gan gynnwys disgyblion Gallu Uchel a Thalentog ac i rai sydd ag Anghenion Arbennig. Mae ein canlyniadau ardderchog yn sicrhau bod cyfran helaeth o’n disgyblion yn symud ymlaen i Brifysgol

Rydym yn ysgol arloesol y ceir ynddi  werthoedd traddodiadol sydd yn gysylltiedig â dulliau addysgiadol cyfoes, gan gynnwys defnydd eang o Dechnoleg Gwybodaeth. Ein nod ydy cynnal yr amgylchfyd addysgiadol gorau i’n disgyblion wrth gynnig cyfleoedd gwych iddynt, o fewn a thu allan i’r dosbarth, gan sicrhau bod pob disgybl yn medru llwyddo ac ymfalchio yn eu hymdrechion. Mae staff ymroddgar ein hysgol yn annog pob disgybl i gyrraedd y gorau o fewn eu gallu ac rydym felly yn gweithio yn agos iawn gyda phartneriaeth y rhieni. Mae anghenion unigol pob disgybl yn cael eu hadnewyddu yn gyson drwy gydol eu hamser yn yr ysgol. Un o brif amcanion yr ysgol ydy cynhyrchu disgyblion cyfrifol, sydd yn meddu ar safonau a fydd yn eu ymbaratoi i astudio’n bellach neu eu paratoi ar gyfer byd gwaith. Rydym yn awyddus iawn i ddathlu llwyddiant bersonol disgyblion pob cyfle a gawn.

Annogir unigolion i feddwl yn ddwys am eu rol o fewn y gymdeithas ac i ystyried anghenion eraill. Mae gwaith elusenol a gwaith o fewn y gymuned yn hollbwysig ac yn amlwg yn yr ysgol. Ysgogir ein disgyblion i fod yn ddinasyddion cyfrifol yr unfed ganrif ar hugain. Mae fforwm y disgyblion yn un gref ac effeithiol sy’n chwarae rol bwysig yn rhediad yr ysgol.

Ein nod ydy gwireddu  ardderchogrwydd. Rydym yn ymfalchio yn enw da nodedig yr ysgol.

Gobeithiaf gael cyfle i gwrdd â chi yn y dyfodol.