Llangrannog 2008

Aeth 40 o ddisgyblion Blwyddyn 7 o Ysgol Uwchradd Yr Eglwys Newydd i Wersyll  Ieuenctid yr Urdd yn Llangrannog. Er gwaethaf y tywydd oer, cafodd bawb amser bendigedig. Ar ol bwyta brecwast hyfryd o facwn ac wyau, cynhaliwyd gwersi Cymraeg bob bore. Trefnwyd llu o weithgareddau diddorol a chyffroes i’r disgyblion gan gynnwys marchogaeth, gwibgartio, sgio, nofio, cwrs rhaffau, toboganio, trampolinio, saethyddiaeth a chyfeiriadu. Ymwelodd y disgyblion â thraeth godidog Llangrannog lle bu rhai yn ddigon dewr i fentro yn y mor (traed yn unig!). Bu’r  disgo ar y noson olaf yn llwyddiant mawr. Amser bythgofiadwy i bawb am flynyddoedd I ddod mae’n siwr.

 

Content on this page requires a newer version of Adobe Flash Player.

Get Adobe Flash player