Cartref | Staff | Newyddion | Cwricwlwm | Cysylltiadau |  

 

Mae’r adran Gymraeg yn adran llwyddiannus, brwd a gweithgar sy’n cynnwys saith o athrawon – rhai ohonynt wedi dysgu Cymraeg eu hun yn yr ysgol.

 

Fel ail iaith yn unig, y dysgir y Gymraeg yn yr ysgol hon, ac amcan yr adran ydy cynhyrchu pobl ifanc fydd yn medru cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn y pen draw.

 

Gyda’r holl ddatblygiadau cynhyrfus yn y byd Cymraeg heddiw – mae pobl yn dod yn fwy ymwybodol o bwysigrwydd yr iaith. Gall fod o fantais aruthrol mewn amrywiaeth helaeth o yrfaoedd a swyddi.

 

Ceisiwn feithrin agweddau positif tuag at gymreictod trwy ddysgu dynamig ar lawr y dosbarth a hefyd trefnu gweithgareddau allgyrsiol i hybu’r iaith.